Disgyblaeth academaidd sy'n ymwneud ag astudiaethau llyfrgelloedd a meysydd gwybodaeth yw llyfrgellyddiaeth.[1]
Sefydlwyd yr ysgol gyntaf i astudio gwyddoniaeth llyfrgellyddol gan Melvil Dewey ym Mhrifysgol Columbia ym 1887.[2]
Mae hyn yn cynnwys astudiaeth o sut mae adnoddau llyfrgelloedd yn cael eu defnyddio a sut mae pobl yn rhyngweithio gyda systemau llyfrgelloedd. Mae hefyd yn ymchwilio i drefniadaeth gwybodaeth ar gyfer adalwad effeithlon. Mae pynciau sylfaenol llyfrgellyddiaeth yn cynnwys caffael, catalogio, trefniadaeth, a chadw deunyddiau.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search